Mae Acorn yn un o gwmnïau recriwtio a hyfforddi gwobredig mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig, gyda rhwydwaith o ganghennau, lleoliadau ar y safle ac adrannau arbennigol drwy Loegr a Chymru.
Rydym yn gweithio gydag oddeutu 1,000+ o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat ar hyd y Deyrnas Unedig bob wythnos, gyda rhestr o gleientiaid sy'n cynnwys torf o fusnesau nodedig fel Panasonic, MBNA, Tata, HSBC, Muller, InBev UK, Network Rail, Peacocks, Wincanton, GE, Dyson, Balfour Beatty, Compass Group, Veolia...yn ogystal ag amrywiaeth o sefydliadau sector cyhoeddus yn y gwasanaethau iechyd, heddlu a charchar; llywodraeth leol a chenedlaethol, prifysgolion, ac ati.
Mae'r rhain, fel sawl busnes a sefydliad arall, wedi elwa drwy ddefnyddio arbenigedd proffesiynol Acorn mewn darganfod, dewis a recriwtio staff dibyniadwy o ansawdd uchel i cynnwys contractwyr, gweithwyr dros dro a lleoliadau gwaith parhaol.
Mae Acorn yn ymroddedig i’w wreiddiau Cymraeg, ac yn ymdrechu i gefnogi'r iaith Gymraeg lle bo’n bosib. Mae ein Hadran Dysgu a Datblygu wedi’i hymroi i gydnabod anghenion ieithyddol a diwylliannol dysgwyr a chyflogwyr Cymraeg, ac rydym mewn cyswllt rheolaidd â nifer o gyrff sy’n ymdrin â gweinyddu cymwysterau yng Nghymru, ac y mae Acorn yn cydweithio â nhw ar faterion yr iaith Gymraeg, ac yn cefnogi mentrau i wella’r ddarpariaeth o’r iaith Gymraeg mewn dysg ac addysg.
view in English