Gyrwyr Trên Dan Hyfforddiant

Mae Acorn yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru i gefnogi eu hymgyrch i recriwtio nifer o yrwyr trên dan hyfforddiant ar draws Caerdydd, Caerfyrddin, Caer, Crewe, Caergybi, Cyffordd Llandudno, Machynlleth, Pwllheli ac Amwythig.

Cyfle i bawb

Gyda rhaglen hyfforddi wych, does dim angen profiad arnoch chi, ond bydd angen i chi ddangos ymrwymiad, gwaith caled, ffocws a’r gallu i beidio â chynhyrfu.

Byddwch chi’n cynrychioli Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ac yn gweithio ar eu cenhadaeth sef ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy roi pobl wrth galon y gwasanaeth byddwch chi’n ei ddarparu.

Bydd angen i chi weithio amrywiaeth o shifftiau, gweithio oriau anghymdeithasol a byw o fewn awr i’r depo byddwch chi’n gwneud cais amdano. Yn gyfnewid am hynny byddwch chi’n cael llwybr gyrfa ffantastig, cynllun pensiwn cystadleuol, teithio am ddim ar drenau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau i chi a’ch teulu, cynllun gofal iechyd wedi’i noddi gan y cwmni a chyfle i fod yn rhan o weledigaeth newydd ar gyfer trafnidiaeth, gyda phobl a llefydd Cymru a’r Gororau wrth galon ei genhadaeth.

 

 

 

 

Latest Gyrwyr Trên Dan Hyfforddiant Jobs
Register with us and we’ll help you to find your ideal job
Part of the Synergie Group