Acorn Recruitment yn falch o fod yn bartner gyda Cwmpas i chwilio am eu Prif Weithredwr newydd. Mae Cwmpas yn credu y dylai ein heconomi a'n cymdeithas weithio'n wahanol, gan roi pobl a'r blaned yn gyntaf. Rydym yn asiantaeth gydweithredol a datblygu, yn gweithio dros newid economaidd a chymdeithasol.
Gan weithio gyda'r Bwrdd, mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol Cwmpas, arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau busnes i gefnogi'r weledigaeth a'r cenadaethau, ac ysgogi ac ysbrydoli pobl i gyflawni'r rhain yn llwyddiannus.
Manylion Allweddol:
- Cyflog: Tua £80,000 y flwyddyn.
- Lleoliad: Nid oes gan Gwmpas swyddfeydd sefydlog bellach. Er y gellir cyflawni llawer o'r rôl trwy weithio gartref neu fan hwb hyblyg y gellir ei drefnu gyda'r ymgeisydd llwyddiannus, erys gofyniad i deithio'n aml ledled Cymru (yn enwedig De-ddwyrain Cymru) a theithio rheolaidd i rannau eraill o'r DU a yn achlysurol ymhellach i ffwrdd.Mae Cwmpas yn talu lwfans gweithio o gartref CThEM ac yn darparu offer gwaith hanfodol, fel gliniadur a monitor, yn rhad ac am ddim.
- Mae buddion a gwybodaeth eraill i'w gweld yn y pecyn ymgeisydd llawn sydd ynghlwm ar wefan Acorn.
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Arwain datblygiad a gweithrediad strategaethau a chynlluniau busnes sy'n cefnogi'r weledigaeth a'r cenadaethau strategol.
- Arwain, cymell ac ysbrydoli uwch arweinwyr yn ogystal â thîm ehangach Cwmpas i gyflawni amcanion strategol y sefydliad ac i greu tîm ymgysylltu ac effeithiol.
- Bod yn atebol i'r Cadeirydd, y Bwrdd a'r aelodaeth am berfformiad Cwmpas ac ansawdd y gwasanaethau sy'n gyson â diben, cenadaethau, nodau a gwerthoedd.
- Nodi cyfleoedd busnes a phartneriaethau newydd a goruchwylio datblygiad a gweithrediad cynlluniau i wireddu'r cyfleoedd hyn.
- Gweithredu fel gwarcheidwad ar gyfer gwerthoedd a diwylliant Cwmpas, gan adeiladu diwylliant sy'n gadarnhaol, yn deg, yn gefnogol ac yn gydweithredol.
- Sefydlu a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol cadarnhaol ag uwch randdeiliaid, gan gynnwys gweinidogion Llywodraeth Cymru a'r DU, Prif Weithredwyr awdurdodau lleol, arweinwyr y trydydd sector, cyllidwyr ac arweinwyr busnes er mwyn dylanwadu ar gyfeiriad polisi a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer twf busnes.
- Arwain trwy esiampl, gan ddangos angerdd a brwdfrydedd dros ddiben Cwmpas a gweithredu fel hyrwyddwr gweladwy dros werthoedd y sefydliad a thros gyraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn fewnol ac yn allanol.
Manyleb Person:
- Profiad o weithio mewn rôl uwch arweinydd mewn busnes cymhleth, yn arwain newid trawsnewidiol ac ddatblygu strategaeth a chynllun busnes.
- Arwain timau mawr, uchel eu perfformiad ac adeiladu diwylliant cryf a chefnogol.
- Rheoli adnoddau cymhleth a chyllidebau sylweddol ar lefel uwch i gyflawni targedau ariannol a gweithredol.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd a phartneriaethau llwyddiannus gydag ystod eang o randdeiliaid ar y lefelau uchaf oll.
- Goruchwylio cyfleoedd masnachol a thwf busnes ac rheoli risg.
- Datblygu a dylanwadu ar bolisi ac siarad yn gyhoeddus ac yn y cyfryngau.
- Cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yng Nghymru ac yn y DU.
- Byddai'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
Am y rhestr lawn o gyfrifoldebau a gofynion, ewch i'r pecyn ymgeisydd llawn ar wefan Acorn.
Proses Ymgeisio
Gwnewch gais ar-lein gydag Acorn Recruitment a fydd yn cysylltu â chi i ddweud mwy wrthych a thrafod y camau nesaf. Fel rhan o'ch cais, bydd gofyn i chi ddarparu:
- CV wedi'i ddiweddaru
-Datganiad Ategol yn nodi pam yr hoffech ymuno â Chwmpas a pham yr ydych yn credu eich bod yn ymgeisydd credadwy, gan gyfeirio at y fanyleb person
- Cwblhewch yr holiadur Monitro E&D mewn y pecyn gwybodaeth ymgeisydd
Bydd penodiad yr ymgeisydd llwyddiannus yn amodol ar ddau weithiwr proffesiynol / cyfeiriadau personol, er boddlonrwydd Cwmpas. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i Gwmpas weld tystiolaeth o hawl i weithio yn y DU.
Dyddiad cau: Hanner nos 5 Chwefror 2023
Acorn Recruitment acts as an employment agency for permanent recruitment.