Apply for job
Aelodau'r Bwrdd
Conwy
Salary: Up to £4,500
Job Type: Permanent
Start Date:
Added: 18 Apr 2023
Job Reference: BBBH35469
Job Description
Aelodau'r Bwrdd

£4,500 y flwyddyn

Mae Acorn gan Synergie Executive Search yn falch iawn o fod mewn partneriaeth â Thai Gogledd Cymru wrth iddynt geisio recriwtio tri Aelod Anweithredol newydd i'w Bwrdd.


Mae'r sgiliau y mae Tai Gogledd Cymru am eu hychwanegu at eu Bwrdd yn cynnwys:

* Cyllid, yn enwedig sgiliau cyfrifeg
* Rheoli tai cyffredinol neu gymdeithasol
* Mewnwelediad cwsmer neu denant
* Adeiladu masnachol
* Gweithio gyda phobl o gefndiroedd amrywiol neu ymwneud â chymunedau neu grwpiau amrywiol

Mae'r Bwrdd yn ddylanwadol wrth helpu i ddiffinio strategaeth sefydliadol a gweledigaeth a nodau hirdymor Tai Gogledd Cymru. Bydd y Bwrdd yn helpu i sicrhau bod Tai Gogledd Cymru yn gwrando ar eu tenantiaid a bod sianeli cyfathrebu effeithiol ar gael er mwyn i'w lleisiau gael eu clywed, ac er mwyn i benderfyniadau gael eu gwneud er eu lles gorau. Fel Aelod Bwrdd byddwch hefyd yn monitro perfformiad Tai Gogledd Cymru i sicrhau bod safonau, nodau, a gofynion rheoleiddio yn cael eu bodloni.


Pwrpas y Bwrdd:

* Gosod, diffinio a sicrhau cydymffurfiaeth â gwerthoedd, gweledigaeth, cenhadaeth ac amcanion strategol y sefydliad, gan sicrhau ei lwyddiant hirdymor a bodloni ei rwymedigaethau i gyllidwyr a thrigolion.
* Bodloni ei hun ynghylch cywirdeb gwybodaeth ariannol, cymeradwyo cyllidebau blynyddol, cyfrifon blynyddol cyn eu cyhoeddi, cynlluniau busnes, cynlluniau ariannol, a rhoi prawf straen ar y cynlluniau hynny i hwyluso cyflawni amcanion strategol.
* Sefydlu, goruchwylio ac adolygu'n flynyddol fframwaith o ddirprwyo a systemau rheolaeth fewnol.
* Sefydlu a goruchwylio fframwaith rheoli risg i ddiogelu asedau'r sefydliad.
* Gweithredu'n dorfol ac ar y cyd o fewn diwylliant o ddidwylledd, gonestrwydd ac uniondeb, gan ddarparu dadl a her adeiladol.


Cymwyseddau:

* Meddwl ac arweinyddiaeth strategol
* Wedi ymrwymo i safonau uchel o lywodraethu
* Cyfathrebu'n effeithiol mewn modd agored a phroffesiynol, gan weithio gydag eraill, annog cyfranogiad a pharchu safbwyntiau amgen.
* Dadansoddi a chraffu ar wybodaeth
* Barn wrth wneud penderfyniadau
* Gallu cael cefnogaeth a dylanwad trwy weithio'n effeithiol mewn tîm a meithrin perthnasoedd cadarnhaol
* Sylw i gwsmeriaid
* Gwybodaeth leol/rhanbarthol


P'un a ydych wedi eistedd ar Fwrdd o'r blaen neu os mai hwn fydd eich Bwrdd cyntaf, byddem yn awyddus i glywed gennych ac i drafod y cyfleoedd hyn ymhellach gyda chi.

Ymrwymiad amser:

Tua 1 diwrnod y mis ond rhaid bod yn hyblyg


Dyddiadau Allweddol:

* Dyddiad CauGwneud Cais 21 Mai
* Cyfweliadau Cam 1af w/c 29aino Fai
* Cyfweliadau 2il gam dydd Gwener23 Mehefin

Mae Tai Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant ar ei Fwrdd i gynrychioli'r cymunedau y mae'n gweithio ynddynt ac mae hefyd wedi ymrwymo i weithio i leihau anghydraddoldeb gan fod pawb yn haeddu cartref gweddus, diogel, cynnes a fforddiadwy. Anogir ceisiadau gan unigolion â nodweddion gwarchodedig neu o gefndiroedd amrywiol, ac yn enwedig gan bobl ifanc a phobl ag anableddau.


I gael rhagor o wybodaeth ar sut i wneud cais, edrychwch ar y pecyn ymgeiswyr ar wefan Acorn by Synergie am ragor o fanylion.

Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment.
North Wales Housing

Founded in 1974, North Wales Housing today is a successful social enterprise providing homes and delivering services to over 2,500 households across North Wales.

 

Candidate pack

Candidate pack - Welsh

Related Jobs
Register with us and we’ll help you to find your ideal job
Part of the Synergie Group